Lleoliad:
Fideo gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Gwener, 15 Ionawr 2021
Amser:
09.31 -
12.07
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11117
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Llyr Gruffydd AS (Cadeirydd) Alun Davies AS Siân Gwenllian AS Mike Hedges AS Rhianon Passmore AS Nick Ramsay AS Mark Reckless AS |
Tystion: |
Steffan Evans, Sefydliad Bevan Gemma Schwendel, Sefydliad Joseph Rowntree Llŷr ap Gareth, Federation of Small Businesses Cymru Andrew Campbell, Cynghrair Twristiaeth Cymru Ian Price, CBI Wales |
Staff y Pwyllgor: |
Bethan Davies (Clerc) Leanne Hatcher (Ail Glerc) Georgina Owen (Ail Glerc) Mike Lewis (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) Owen Holzinger (Ymchwilydd) Christian Tipples (Ymchwilydd) Owain Davies (Ymchwilydd) Rhiannon Lewis (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Cyllid.
2 Papur(au) i’w nodi
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
2.1 PTN 1 – Llythyr gan y Gweinidog Addysg: Ymateb i adroddiad y Pwyllgor ar y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) – 11 Ionawr 2021
2.2 PTN2 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd – Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2021 – 7 Ionawr 2021
3 Craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22: Sesiwn dystiolaeth 5
3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Steffan Evans, Swyddog Polisi ac Ymchwil, Sefydliad Bevan; a Gemma Schwendel, Uwch Ddadansoddwr, Sefydliad Joseph Rowntree ar Graffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22.
4 Craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22: Sesiwn dystiolaeth 6
4.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Andrew Campbell, Cadeirydd Cynghrair Twristiaeth Cymru; Ian Price, Cyfarwyddwr Cydffederasiwn Diwydiant Prydain yng Nghymru (CBI Cymru); a Dr Llyr ap Gareth, Uwch Gynghorydd Polisi, Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru (FSB Cymru) ar Graffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6 Craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22: Trafod y dystiolaeth
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
7 Ceisiadau o ran Cyllideb Atodol 2020-21 gan Gyrff a Ariennir yn Uniongyrchol
7.1 Trafododd a chymeradwyodd y Pwyllgor yr amrywiadau arfaethedig i gyllidebau 2020-21 ar gyfer Archwilio Cymru, Comisiwn y Senedd ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
7.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Archwilio Cymru i ofyn am ragor o fanylion am gost ychwanegol gwyliau blynyddol cronedig staff.
8 Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2020
8.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft.